Skip to main content
Ad (425x293)

Hanes y Beic yng Nghymru: O'r Hobbyhorse i'r Penny Farthing a Llwyddiannau Seiclo

Mae hanes y beic yng Nghymru yn cynnwys datblygiadau o'r hobbyhorse i'r penny farthing, llwyddiannau seiclwyr fel Arthur Linton, a'r effaith ar gymunedau lleol yn y 19eg ganrif.

·6 min read
Criw o seiclwyr yn Arberth, Sir Benfro tua’r flwyddyn 1885.

Criw o seiclwyr yn Arberth, Sir Benfro tua'r flwyddyn 1885

O ganu am 'hen feic peni ffardding fy nhaid' i ymfalchïo yng nghampau unigolion fel Nicole Cooke a Geraint Thomas – mae gan y Cymry dreftadaeth seiclo gyfoethog.

Ond faint wyddoch chi am hanes y beic yng Nghymru?

Gyda'r Tour de France ar gychwyn, mae'r hanesydd, Elin Tomos, yn bwrw golwg ar ddatblygiad ac arwyddocâd y beic yng Nghymru.

O'r hobbyhorse i'r penny farthing

Byddai rhai'n dadlau mai rhagflaenydd y beic modern oedd yr hobbyhorse a ddyfeisiwyd tua dechrau'r 19eg ganrif.

Yn wahanol i feiciau modern roedd yn rhaid i'r beiciwr wthio'i draed oddi ar y ddaear i yrru'r beic yn ei flaen.

Er mwyn gwneud yn siŵr bod coesau'r beiciwr yn cyrraedd y llawr roedd y beiciau cynnar yma'n cael eu hadeiladu gan ddefnyddio mesuriadau personol y beiciwr gan olygu eu bod yn ddrud tu hwnt i'w cynhyrchu.

hobby horse
Disgrifiad o’r llun, Hobby neu dandy horse – rhagflaenydd y beic modern

Hobby neu dandy horse – rhagflaenydd y beic modern

Fel unrhyw ddyfais newydd roedd gofyn Cymreigio'r enw neu fathu term o'r newydd.

Defnyddiwyd nifer o eiriau gwahanol ar gyfer y beic, gan gynnwys: 'olwyn farch', 'bisycl', 'deugylch', 'deurod neu dwyrod', 'car gwyllt' a'r mwyaf cyffredin ohonynt oll efallai, 'march neu geffyl haearn'.

Wrth i'r ganrif fynd rhagddi, datblygwyd sawl beic newydd. Un o feiciau mwyaf adnabyddus y cyfnod oedd y penny farthing neu'r ordinary fel y cyfeiriwyd atynt bryd hynny.

Mae'r llysenw penny farthing yn deillio o'r gwahaniaeth maint a oedd rhwng y ddwy olwyn; roedd yr olwyn fwyaf yn debyg i geiniog a'r lleiaf o'r ddwy yn debycach i ddarn arian ffyrling neu farthing a oedd yn llai.

Penny Farthing
Disgrifiad o’r llun, Hugh Pugh, Forden House, Dolgellau gyda'i feic 'Penny Farthing', 1953

Hugh Pugh, Forden House, Dolgellau gyda'i feic 'Penny Farthing', 1953

Er eu bod wedi dod yn ddigon cyffredin erbyn yr 1880au nid oedd seiclo fel y cyfryw wedi datblygu i fod yn weithgaredd hamdden o bwys gan fod y beic ar y cyfan yn rhy ddrud, trwm a pheryglus.

Deng milltir yr awr 'yn llawn digon'

Daeth tro ar fyd yn ystod yr 1890au pan ddatblygwyd y safety bike.

Diolch i ddatblygiadau technolegol gweddnewidiwyd siâp y beic yn llwyr; roedd yr olwynion bellach yn gyfartal o ran maint ac yn cael eu gyrru gan gadwyn neu tsiaen.

Yn wahanol i feiciau cynharach – a oedd wedi defnyddio olwynion rwber – roedd gan y safety bike olwynion wedi ei llenwi ag aer gan olygu eu bod yn llawer mwy cyfforddus.

Trawsnewidiwyd perthynas y Cymry gyda'r beic a seiclo fel camp yn sgil ymddangosiad y safety bike.

Mewn erthygl o'r enw 'Clod y Beic' a gyhoeddwyd ym mhapur newydd Papur Pawb yn 1899, dathlodd yr awdur ei bod hi bellach yn bosib mynd

'deng milltir yn yr awr ar un or "bicycles" newyddion yma… nid wyf yn gwybod am ddim tebyg i'r ceffyl haiarn.'

Ar yr un gwynt, rhybuddiodd bod 'deng milltir yn llawn digon' ac nad oedd 'dim rheswm mewn myn'd bymtheg a rhagor o filltiroedd mewn awr' fel 'racer.'

Ad (425x293)

Llwyddiant beicio yn y Cymoedd

Does dim dwywaith mai cymoedd y de oedd crud rasio beic yng Nghymru ac roedd un teulu amlwg yn arwain y ffordd.

Erbyn yr 1890au roedd Arthur Linton – ynghyd a'i frodyr Tom a Samuel – o Aberaman ymhlith rhai o'r seiclwyr mwyaf llwyddiannus yn Ewrop.

Yn 1894 llwyddodd Arthur Linton i dorri record 100km y byd a bathwyd y llysenw 'Pencampwr y Byd'.

Dwy flynedd yn ddiweddarach daeth i'r brig – ar y cyd â'r Ffrancwr, Gaston Rivierre – yn un o rasys pwysicaf y cyfnod: ras undydd 600km o Bordeaux i Baris a hynny mewn naw awr, 17 munud ac 18 eiliad.

Arthur Linton ar feic
Disgrifiad o’r llun, Arthur Linton tua'r flwyddyn 1895

Arthur Linton tua'r flwyddyn 1895

Dywedwyd mewn sawl adroddiad papur newydd bod Arthur yn edrych yn ddychrynllyd o wael erbyn diwedd y ras ac ymhen deufis bu farw, gyda theiffoid yn cael ei nodi fel yr achos swyddogol ar ei dystysgrif marwolaeth.

Yn dilyn ei farwolaeth pardduwyd enw da Arthur fel seiclwr proffesiynol gan amheuon ei fod wedi defnyddio cyffuriau i wella ei berfformiad gyda rhai yn honni mai ef oedd y twyllwr cyffuriau cyntaf yn hanes y gamp – tra bod eraill yn daer ei fod yn ddieuog.

Ai beiciwr o Gymru oedd y twyllwr cyffuriau cyntaf?

Ardal arall o Gymru sy'n cael ei chysylltu â datblygiad y beic ydy Glanaman. Yno, sefydlodd y brodyr, Arthur a William Williams, eu cwmni cynhyrchu beiciau Defiance Cycle Works yn 1880.

Bu'r cwmni'n cynhyrchu ystod eang o feiciau gan gynnwys tandemau a beiciau wedi'u dylunio'n arbennig i ferched – diolch byth! Yn 1895, tyfodd y busnes pan symudodd brawd arall, David, i Dde Affrica gan agor pencadlys newydd yn Johannesburg.

Erbyn terfyn y cyfnod Fictoraidd roedd beiciau'n dra chyffredin ar draws Cymru ac wedi trawsnewid gallu trigolion i deithio yn ogystal ag ehangu eu cylch.

Un canlyniad llai cadarnhaol a ddeilliodd o boblogrwydd yr hen 'farch haearn' oedd y cynnydd sylweddol yn y nifer o ddamweiniau.

Roedd y papurau newydd yn frith o adroddiadau am ddamweiniau beic.

Ym mis Gorffennaf 1899, adroddwyd ym mhapur newydd Yr Wythnos a'r Eryr bod negesydd ifanc o'r enw James Evans wedi colli rheolaeth ar ei feic wrth gludo llythyr o'r Bala a 'thaflwyd ef a'r Bicycle dros y Gwrych i'r cae.'

Roedd gohebydd y papur yn gobeithio y byddai anffawd James yn

'wers i fechgyn ieuainc i fod yn fwy gofalus… pan yn marchogaeth Bicycles'!

Ers dros ganrif, mae'r beic wedi bod yn fendith ac yn fwrn yng Nghymru ac wrth i'r Tour de France hawlio'r penawdau unwaith eto, mae'n werth cofio'r rhan arbennig y mae Cymru a'i seiclwyr wedi'i chwarae yn natblygiad y gamp.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb

  • Geraint Thomas yn ei ddagrau wrth i'w yrfa ddisglair ddod i ben
  • Seiclwr o Bowys yn drydydd mewn ras feics ultra ar draws Ffrainc
  • 'Bydd pobl o gwmpas y byd yn dod i ddefnyddio Llwybr Dyffryn Tywi'

This article was sourced from bbc

Ad (425x293)

Related News