Dathlu 140 mlynedd ers sefydlu Cymdeithas Dafydd ap Gwilym
Mae nifer o Gymry adnabyddus wedi bod trwy ddrysau Coleg yr Iesu yn Rhydychen.
Bydd digwyddiad yn cael ei gynnal yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen dros y penwythnos i ddathlu pen-blwydd Cymdeithas Dafydd ap Gwilym yn 140.
Cafodd y gymdeithas, sef cymdeithas Gymraeg ym Mhrifysgol Rhydychen, ei sefydlu yn 1886 ac mae'r penwythnos hwn yn nodi 140 o flynyddoedd ers ei sefydlu.
Ymhlith y sylfaenwyr mae O M Edwards a John Morris Jones, ac fe ddechreuodd y gymdeithas groesawu merched fel aelodau yn 1966.
Mae gan y gymdeithas sawl cyn-aelod adnabyddus, gan gynnwys sylfaenydd yr Urdd, Ifan ab Owen Edwards, y gwleidydd Gwynfor Evans, cyn-brif weinidog Cymru Rhodri Morgan, ac yn fwy diweddar yr Aelod Seneddol Ben Lake, Aelod Senedd Cymru Delyth Jewell, y newyddiadurwr Guto Harri a'r bardd Aneirin Karadog.
Mae David Ingham yn gobeithio y bydd y gymdeithas yn parhau i ffynnu am flynyddoedd eto.
140 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae'r gymdeithas yn parhau i ddenu Cymry dros y ffin hyd heddiw.
Mae'r ffaith bod cymdeithas Gymraeg yn bodoli o fewn y brifysgol yn un o'r rhesymau a ddenodd David Ingham a Maia Williams - cyd-gaplaniad ar y gymdeithas - i astudio yno.
"Rydw i'n siarad Saesneg gartref, yn yr ysgol ddysgais i'r Gymraeg," meddai David.
"Roeddwn yn gwybod wrth ddod i Loegr i astudio y byddai llai o gyfle i siarad a defnyddio'r Gymraeg."
Dywedodd Maia Williams fod cael rhywle i siarad Cymraeg gyda phobl yn "bwysig ofnadwy" iddi.

Cymraeg yw prif iaith y gymdeithas ac mae hyn, yn ôl yr aelodau, yn rhan annatod ohoni.
Ychwanegodd Maia: "Dwi wedi byw yn Lloegr ers rhyw wyth mlynedd bellach, felly mae'n bwysig ofnadwy i fi gael rhywle lle dwi'n gallu siarad Cymraeg hefo pobl, sy'n rhan mor bwysig o'n hunaniaeth i."

Cafodd y gymdeithas ei henwi ar ôl y bardd Dafydd ap Gwilym, ac mae'n cael ei hadnabod gan amlaf fel 'Cymdeithas Dafydd', 'Y Dafydd' neu 'Y Gymdeithas', gyda chyfeiriadau ati fel "Oxford University Welsh Society" yn aml yn cael eu diystyru gan aelodau.
Mae'r gymdeithas yn cynnal digwyddiadau wythnosol mewn tafarndai, eisteddfod, a gwasanaeth carolau blynyddol.
Dywedodd Lleucu Branson-Wiliam fod y gymdeithas yn "gymuned".
I Lleucu Branson-Wiliam, swyddog cymdeithasol y gymdeithas, mae'r elfen gymdeithasol honno yn bwysig.
"Dwi wir yn mwynhau elfen gymdeithasol y gymuned," meddai.
"Bod ni'n gallu cyfarfod yn anffurfiol mewn tafarn neu mewn parc a siarad, yfed, ymlacio gyda'n gilydd."

Gyda bwriad chwareus ac eironig yn wreiddiol i rai o ddefodau ffurfiol y gymdeithas, er nad ydynt bellach yn orfodol, mae rhai o'r traddodiadau wedi parhau hyd heddiw.
Mae'r rhain yn cynnwys darlleniad o waith Dafydd ap Gwilym i agor cyfarfodydd neu ddigwyddiadau, ac mae'r teitl 'Caplan' yn cael ei ddefnyddio ar gyfer rôl llywydd y gymdeithas hefyd.
"Yn yr hen ddyddiau, fe ddarllenon nhw'r gerdd ac yna ei thrafod yn y cyfarfod," yn ôl David.
"Erbyn hyn, rydyn ni'n darllen y gerdd ond ddim yn gwneud cweit gymaint o drafod."
Cymdeithas Gymraeg hynaf Prydain y tu allan i Gymru
Yn y 1990au, cyhoeddwyd sawl rhifyn o gylchgrawn y gymdeithas, Yr Aradr, oedd yn cynnwys erthyglau gwreiddiol gan aelodau'r gymdeithas ynghyd â rhai gwesteion.
Mae'r traddodiad yma hefyd wedi parhau, a'r gymdeithas bellach yn cyhoeddi cylchgrawn blynyddol, Y Drych.
Dyma gymdeithas Gymraeg hynaf Prydain y tu allan i Gymru, yn ogystal â'r gymdeithas hynaf yn Rhydychen, ar wahân i'r Oxford Union.
Mae David yn gobeithio y bydd yn parhau i ffynnu am flynyddoedd eto.
"Fi'n gobeithio y bydd yr hen draddodiadau sydd gyda ni yn parhau yn y 140 o flynyddoedd sydd i ddod ac y bydd y gymdeithas yn aros yn driw i'r cyfansoddiad ac i'n holl hanes ni," meddai.
I nodi'r achlysur bydd dathliad yn cael ei gynnal yng Ngholeg yr Iesu ddydd Sadwrn, fydd yn croesawu cyn-aelodau, myfyrwyr presennol a Chymry Rhydychen i ddathlu'r garreg filltir.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.






