Skip to main content
Advertisement

Cofio Athro Colin Williams a'i Effaith ar Bolisi Iaith yng Nghymru a'r Byd

Mae Athro Colin Williams, arbenigwr rhyngwladol ar bolisi ieithoedd lleiafrifol, wedi marw yn 75 oed. Ei waith a'i ddylanwad ar bolisi iaith yng Nghymru a ledled y byd wedi cael ei gydnabod yn eang gan academyddion a chydweithwyr.

·6 min read
Yr Athro Colin Williams

Cofio Athro Colin Williams a'i Ddylanwad yng Nghymru a Ledled y Byd

Mae unrhyw un ohono ni sydd wedi manteisio ar unrhyw ddarpariaeth, cefnogaeth neu gyfleoedd drwy'r Gymraeg dros y degawdau diwethaf - mae ôl gwaith Colin yna i bawb.

Mae'r Athro Colin Williams, un o'r arbenigwyr rhyngwladol mwyaf adnabyddus ar atgyfnerthu ieithoedd lleiafrifol, wedi marw yn 75 oed.

Fe gafodd ei eni yn Y Barri yn y 1950au a bu'n gweithio am gyfnodau dramor cyn cael ei benodi yn athro sosio-ieithyddiaeth yn Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd yn 1993.

Mae nifer o'i gyfeillion, ei gyn-fyfyrwyr a'i gydweithwyr wedi talu teyrnged iddo a'i "waith diflino" ym maes polisi iaith:

Roedd pennaeth Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, Dr Dylan Foster-Evans, yn cydweithio gyda'r Athro Colin Williams am flynyddoedd. Bu'n siarad ar Dros Ginio ar Radio Cymru:

Roedd Colin yn ffigwr unigryw ac un o'r teyrngedau mwyaf iddo ydy'r dylanwad gafodd o yng Nghymru ac hefyd ledled y byd.

Roedd o yn cario ei hun yn ysgafn iawn, ond roedd o'n rhywun oedd wedi gweithio ar bolisi iaith yng Nghymru, yn Iwerddon, yng Nghanada, a chynghori pobl yn Ne Affrica ac yng Ngwlad y Basg. A thrwy hyn i gyd roedd gyda fo rwydwaith o gydweithwyr, o fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr, ac roedd wedi gwneud cyfraniad enfawr.

Rydan ni'n anghofio pan ddechreuodd Colin ar ei yrfa yn y 1970au mor amrwd oedd y maes adeg yna. Rydan ni'n gyfarwydd rŵan â'r syniad o strategaeth iaith ac ati a bod y llywodraeth yn cydweithio gyda chyrff eraill ac yn gosod targedau ac yn gweithredu cynlluniau.

Ond roedd hyn yn newydd iawn yr adeg honno, a phobl yn ymbafalu mewn gwirionedd ynglyn â beth oedd y ffordd ymlaen yng Nghymru a thu hwnt. Mae Colin wedi chwarae rhan sylfaenol wrth arwain y maes dros y degawdau hynny.

Un o'r pethau pwysigaf i Colin oedd y cyfuniad o'r gweithgaredd ar lefel leol ac uwch. Oedd o wedi'i fagu yn Y Barri a chael addysg yn yr ysgol gynradd yno a wedyn yn Rhydfelen gyda'r capel a'r Eisteddfod. Roedd yn deall pwysigrwydd gweithgaredd ar lefel leol a sut mae hynny'n cyd-fynd wedyn â'r polisi ar lefel uwch. Mae'n rhaid cael y ddau beth.

Felly, roedd hynny'n bwysig iawn iddo, er ei fod o'n astudio yn fyd-eang. Roedd ei galon o yng Nghymru ac roedd o'n rhywun oedd yn credu'n gryf iawn yn ei waith ac roedd o'n rhywun oedd yn gweithio'n ddi-flino hyd at y diwedd. Roedd o'n ysbrydoliaeth i bawb.

Rydyn ni'n meddwl am bolisïau'r Llywodraeth, miliwn o siaradwyr ac ati - byddai rhain i gyd yn wahanol heb Colin. Felly mae unrhyw un ohono ni sydd wedi manteisio ar unrhyw ddarpariaeth, cefnogaeth neu gyfleoedd drwy'r Gymraeg dros y degawdau diwethaf - mae ôl gwaith Colin yna i bawb, 'da ni gyd wedi manteisio arno fo.

Heddiw mae'n gyfle i nodi ein gwerthfawrogiad ac ein diolchgarwch i Colin am bob dim yr oedd o wedi'i wneud.

Teirnged gan Academyddion

Dr Cynog Prys a Dr Rhian Hodges

Mae Dr Cynog Prys yn Uwch Ddarlithydd mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor:

Fe wnaeth Colin Williams gyfraniad amhrisiadwy i faes cynllunio ieithyddol a pholisi iaith dros nifer o ddegawdau, nid yn unig yng Nghymru ond yn rhyngwladol hefyd.

Yng Nghymru, seiliwyd llawer o bolisiau iaith y Gymraeg ar ei waith, a gellir mynd mor bell â dweud mai ef oedd pensaer adfywio'r iaith yng Nghymru.

Roedd ei ddylanwad yn ymestyn ymhell y tu hwnt i Gymru hefyd, gan gynnwys gwaith pwysig gyda'r ieithoedd Celtaidd, gwaith yng Ngogledd America, a gwaith hollbwysig wrth osod seilwaith ar gyfer hawliau ieithyddol cymunedau ieithoedd lleiafrifol yn Ewrop.

Ad (425x293)

Roedd Colin hefyd yn gefnogol iawn i academyddion ar ddechrau eu gyrfa. Roedd yn berson hynod garedig, yn hael â'i amser ac yn hael ei gyngor. Bydd ei golled yn cael ei theimlo nid yn unig yma yng Nghymru, ond hefyd drwy rwydweithiau adfywio iaith ledled y byd.

Mae Dr Rhian Hodges yn Uwch Ddarlithydd mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor:

Roedd yn fraint ac yn anrhydedd mawr gen i adnabod yr Athro Colin Williams - un y byddwn i'n disgrifio fel Tad polisi a chynllunio ieithyddol yng Nghymru.

Mae wedi siapio tirwedd polisi a chynllunio ieithyddol yng Nghymru ac o fewn y cyd-destun ryngwladol hefyd. Roedd yn ysgolhaig hollbwysig yn y maes, gyda dylanwad a gyrfa eang a rhyngwladol.

Byddai'n anodd iawn trafod y maes yng Nghymru heb sôn am ei ymchwil hollbwysig. Gosododd y sylfeini drwy ei ymchwil arloesol a'i waith di-flino, gan feithrin cyfleoedd i eraill gyfrannu a datblygu gyrfaoedd yn y maes.

Er ei bod yn anodd crynhoi gyrfa mor gyfoethog ac aml-haenog, mae'n glir iddo ddylanwadu'n ddwfn ac yn eang dros gyfnod estynedig. Allai ddim meddwl am unigolyn arall sydd wedi dylanwadu mor eang ac amrywiol.

Roedd yn ysbrydoliaeth inni gyd sy'n ymddiddori ym maes polisi a chynllunio ieithyddol ac yn un o'r ysgolheigion prin a wnaeth gwahaniaeth ymarferol ar lefel bolisi ac wrth greu cysylltiadau pwysig ar lawr gwlad.

Roedd mor barod i drafod a chynnig cyngor a chymorth am fod cysylltiadau gyda phobl mor bwysig iddo - a dyna wna i gofio amdano yn bennaf.

Diolch yn fawr i Colin a chwsg mewn hedd.

Dr Cynog Prys a Dr Rhian Hodges
Disgrifiad o’r llun, Dr Cynog Prys a Dr Rhian Hodges

Teirnged gan Gyfaill a Myfyriwr

Bu Maite Serralvo, Athro mewn Catalaneg ym Mhrifysgol Catalonia, yn fyfyriwr ac yn gyfaill i'r Athro Colin Williams. Bu'n siarad ar Dros Ginio ar Radio Cymru:

Roedd yn fwy na athro, roedd yn fentor, yn ffrind ac fel ail dad i fi.

'Nes i ddysgu cymaint o bethau ganddo. Roedd o'n teithio'n bobman lle oedd 'na ieithoedd lleiafrifol yn Ewrop ac yng Nghanada hefyd.

Yn ystod y ddwy flynedd a hanner diwethaf, mae wedi 'sgwennu cwpl o lyfrau barddoniaeth ac hefyd llyfrau ym maes cynlluno iaith. Ei passion e oedd yr iaith Gymraeg.

Ni ddim yn gallu meddwl am hanes diweddara'r iaith Gymraeg heb Colin. Dydyn ni ddim yn gallu meddwl am berson mor garedig a mor deallus ac hefyd wrth gwrs ffrind da.

Cysylltiadau a Chyfleoedd

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau Cysylltiedig

Hefyd o Ddiddordeb

Cymraeg 2050: Ar drywydd i gyrraedd miliwn?

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News