Disgyblion cyntaf Ysgol Gymraeg Ynyswen
Ar drothwy noson i ddathlu 75 mlynedd o addysg Gymraeg yn y Rhondda, mae ymgyrchydd amlwg dros addysg Gymraeg yn y cwm yn pwysleisio'r angen i edrych ymlaen a bod gwaith i'w wneud eto.
"Rhaid i ni gadw ein traed ar y ddaear a sylweddoli taw lleiafrif yw plant yr ardal sy'n cael addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, a dylai hynny fod yn symbyliad i ni wella'r sefyllfa," meddai Cennard Davies.
Ar ddechrau'r 1950au, roedd dwy ysgol Gymraeg yn y Rhondda, sef Pont-y-gwaith (Llwyncelyn) ac Ynyswen. Llwyddiant yr ysgolion hyn oedd y sbardun i sefydlu ysgolion meithrin a Chymraeg ledled y cwm.
Mae Cennard Davies yn credu bod angen gwneud mwy i wella'r niferoedd sy'n cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ardal.

Mae'r plant yn mynd i Ysgol Ynyswen o Dreorci a phentrefi ym mhen uchaf Cwm Rhondda. Nifer fach o'r disgyblion sy'n dod o deuluoedd lle mae'r Gymraeg yn iaith gyntaf neu lle mae'r ddau riant yn siarad Cymraeg.
Mae Maisie a Charlie yn teimlo cysylltiad cryf â'r Gymraeg ac yn credu bod addysg Gymraeg yn bwysig iawn.
"Rwy'n siarad Cymraeg gyda fy mam a fy chwaer, ac rwy'n hapus iawn wrth glywed y Gymraeg yn y pentref weithiau," meddai Charlie, sy'n mynd i'r ysgol.
"Pan fyddai'n clywed un neu ddau o bobol yn siarad Cymraeg, fi wedyn yn dweud wrthyn nhw - 'Helo, da iawn chi yn siarad Cymraeg'," ychwanegodd.
"Rwy'n teimlo'n 'prowd a falch bod yr ysgol yn dal i fynd achos roedd tad-cu fi yma yn 1976 a fi yn hapus bo' fi fan hyn lle roedd e a bo' fi'n gallu siarad Cymraeg," meddai Maisie.
"Dyw mam ddim yn siarad Cymraeg," eglurodd, "felly fi a Dad yn trio dysgu hi. Ni yn trio ein gorau."

Hoffai Loti fod yn athrawes rhyw ddydd a dychwelyd i Ysgol Ynyswen, tra bod Elis yn mwynhau helpu ei dad i ddysgu Cymraeg.
Mae plant Ynyswen yn dysgu am eu gorffennol a stori'r ysgol ar hyn o bryd, ac mae gan nifer o'r disgyblion gysylltiad teuluol â'r ysgol.
Mae Elis hefyd yn mynd i'r ysgol ac yn dod o gartref lle dim ond un rhiant sy'n siarad Cymraeg.
"Mae fy nhad yn trio ar bethe fel Duolingo, a mae fe yn helpu fe i glywed fi a mam a fy chwaer yn siarad Cymraeg yn tŷ," esboniodd Elis.
"Dwi mor falch bo' fi yn siarad Cymraeg achos bo fi yn byw yng Nghymru," ychwanegodd.
"Mae fy mamgu a fy mam wedi mynd i Ysgol Gymraeg a rwy'n cario 'mlan â hanes teulu ni sef Cymraeg, Cymraeg, Cymraeg," meddai Loti Gwen.
"Bydde ni yn hoffi bod yn athrawes a dod yn ôl i Ynyswen i ddysgu," ychwanegodd.

Heriau a dyfodol addysg Gymraeg yn y Rhondda
Dywedodd Cerian Roberts, pennaeth Ysgol Ynyswen, fod yr ysgol wedi tyfu ers y cychwyn cynnar ac mae yna ystod o blant gyda nhw, ond y mwyafrif llethol o deuluoedd Saesneg.
"Mae llawer o gyn-ddisgyblion yn anfon plant yma, ond efallai bod nifer ohonyn nhw wedi colli hyder yn yr iaith," meddai.
Ychwanegodd mai'r her iddyn nhw nawr yw newid y cylch hwnnw ac ysbrydoli'r plant i fagu eu plant nhw trwy gyfrwng y Gymraeg ac i dyfu fel'na wedyn.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok i gael y newyddion diweddaraf.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Newid trefn trafnidiaeth ysgol i greu 'ansicrwydd a straen emosiynol'
- Cyngor Sir Gâr yn pleidleisio o blaid cau Ysgol Llansteffan
- Ysgol Gymraeg Llundain yn derbyn grant gan y Llywodraeth







