Busnesau yng Nghymru yn elwa o brysurdeb y Pasg ond yn wynebu heriau
Mae busnesau ar draws Cymru wedi gweld cynnydd mewn prysurdeb dros gyfnod y Pasg, ond mae llawer yn teimlo nad yw hyn yn ddigon i adfer ar ôl blwyddyn anodd sydd "heb fynd fel ddyle hi".
Un cwmni teuluol yn nodi mai dyma oedd "un o'r wythnosau mwyaf bishi ni 'di ca'l hyd yn hyn", ond bod y frwydr i gadw ar agor yn parhau i fod yn un anodd.
Er gwaethaf Storm Dave, roedd tywydd Sul a Llun y Pasg yn braf a thwym ar gyfer rhan fwyaf o Gymru eleni.
Fodd bynnag, gyda chostau biliau, cynnyrch a thanwydd yn parhau i godi, mae pryderon am ddyfodol busnesau lleol yn cynyddu.
Heriau cwmni dillad vintage yng Nghaerffili
Dywedodd Sam Eastcott, perchennog The Circular Studio, busnes dillad vintage ac ail-law yng Nghaerffili, ei bod wedi gorfod cau ei siop wyneb yn wyneb â chynnydd sylweddol mewn costau.
"Fi ddim yn really gallu dweud i unrhyw un ddechrau busnes achos mae just rhy anodd ar hyn o bryd," meddai Sam Eastcott.
Mae Sam wedi gweld biliau gwerth £13,000 ar ddechrau'r mis, gyda chyfraddau busnes wedi codi £7,000 mewn blwyddyn ar draws ei hunedau.
Er bod y siop yn rhan enfawr o'u busnes, mae wedi penderfynu canolbwyntio mwy ar-lein, gan fod y gostau wedi mynd yn rhy uchel i gynnal y siop wyneb yn wyneb.
"Mae'n really anodd i ddweud y gwir... mae 'di bod yn un peth ar ôl y llall," ychwanegodd, gan egluro y bu'n rhaid iddi ddiswyddo un aelod o staff.
Er hynny, mae ei fusnes yn tyfu mewn sawl ffordd, gyda dros 13,000 o ddilynwyr ar Instagram ac mae ei digwyddiadau a gweithdai'n cael adborth da, ond mae'n nodi nad yw pobl yn dod i mewn i'r siop fel o'r blaen.
"Fi ddim yn really gallu dweud i unrhyw un ddechrau busnes achos mae just rhy anodd ar hyn o bryd, a mae pawb ddim gyda arian so ti'n trio 'neud rhywbeth i'r gymuned ond mae neb yn y gymuned yn gallu 'neud unrhywbeth."

Y Caban yn Sir Gaerfyrddin yn wynebu heriau costau
Mae cwmni teuluol yn Sir Gaerfyrddin, Y Caban, sydd ar ochr yr A40 ger Llangadog, yn dweud ei bod hi'n "anodd cynnal busnes dyddiau yma" er bod y Pasg wedi bod yn un o'u hwythnosau gorau eleni.
Perchennog y busnes, Andrea Moore, pwysleisiodd fod y flwyddyn wedi bod yn anodd oherwydd codiadau costau sylweddol.
"Dyw'r flwyddyn heb fynd fel ddyle hi… mae costau popeth 'di mynd lan," meddai.
Mae Andrea yn ceisio cynnal y busnes, ond mae'n ansicr am y gallu i gadw costau a phrisiau ar y lefel bresennol.
"Ni'n trial cynnal pethau fel maen nhw ond am faint allen ni gadw costau a phrisiau fel 'ma, dwi ddim yn siŵr."
Mae'n mwynhau gweithio gyda'i merched a'i gŵr, ond mae'r heriau wedi cynyddu ers iddyn nhw agor pum mlynedd yn ôl.
"'Sdim cymharu i fod yn onest o ran be' o'n i'n talu blwyddyn yn ôl, heb sôn am bedair i bum mlynedd yn ôl, a beth ni'n talu nawr.
Mae rhaid i fe [y busnes] fod yn gynaliadwy ond mae rhaid iddo fe hefyd fod yn rhywbeth mae pobl yn gallu fforddio i ddod aton ni, ac mae cadw'r cydbwysedd yna'n anodd iawn."
Mae Andrea hefyd yn cydweithio gyda nifer o gwmnïau yn Llanymddyfri ac yn nodi bod pawb yn teimlo'r un pwysau ac yn ceisio cefnogi ei gilydd.

Heriau'r sector lletygarwch yng Nghaernarfon
Mae John Evans, perchennog y dafarn adnabyddus Black Boy yng Nghaernarfon, yn dweud bod y Pasg wedi bod yn gyfnod da i'w fusnes, ond bod heriau ariannol yn parhau.
"Mae Pasg 'di bod yn iawn i ni," meddai.
Er iddo fod yn berchen ar y dafarn ers dros chwarter canrif, mae'n wynebu codiadau mawr mewn biliau trydan a nwy.
"Mae biliau electric a gas ni 'di saithio fyny, mae'n aruthrol faint maen nhw 'di codi.
Odd 'na rep yma diwrnod o'r blaen - 'I've never seen a January or February so bad' medda' fo wrtha fi."
Mae John wedi bod yn berchen ar sawl tafarn yn y gorffennol, ond mae'n credu bod y sector yn wynebu anawsterau mawr.
"'Swn i'n meddwl bod nhw gyd yn struglo wan.
'Da ni'n gweld straeon aruthrol am bobl yn cau," ychwanegodd.
"Mae gwestai yn dod ar werth yn bobman.
Mae o'n drist i weld achos mae'n golled i'r gymuned."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok i gael y newyddion diweddaraf.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




