Rheolwr yn mynd ar ôl dyledion a meithrin perthnasoedd cwsmeriaid
Mae Angela Jeffery yn treulio llawer o'i hamser yn mynd ar ôl taliadau hwyr i'w chwmni ac yn meithrin perthynas â chwsmeriaid i geisio osgoi trafferthion talu.
Mae rheolwr swyddfa wedi disgrifio sut y mae ei rôl wedi newid oherwydd yr angen i dreulio'r rhan helaeth o'i hamser yn mynd ar ôl dyledion a threfnu amserlenni ad-dalu i gwsmeriaid sy'n cael trafferthion ariannol.
Mae Angela Jeffery wedi gorfod mynd â phobl i'r llys hawliadau bychain ddwywaith i sicrhau bod ei chyflogwr - y cwmni o Sir Gâr, West Wales Electrical Solutions - yn cael ei dalu.
Mae bargeinio hefyd ymhlith y sgiliau mae sawl masnachwr bellach yn gorfod eu meistroli wrth i gwsmeriaid gwestiynu pris gwasanaethau.
Yn ôl arolwg gan y cwmni Direct Line Group mae dros 53% o fasnachwyr yn dweud eu bod wedi gweld cynnydd o ran taliadau hwyr o'i gymharu â 12 mis yn ôl.
Mae hefyd yn awgrymu bod 68% yn mynd ar ôl dyledion ar hyn o bryd, mae 23% ag o leiaf pedwar o daliadau hwyr ar unrhyw adeg, ac mae masnachwyr ar gyfartaledd yn dileu 3,646 wedi i gwsmeriaid fethu 2 thalu.
"Mae rhai cwsmeriaid wedi colli swyddi neu anwyliaid sy'n gwneud hi'n anodd iddyn nhw fforddio talu," dywedodd Angela.
"Rydym yn rhesymol gyda phobl sydd wir yn ei chael hi'n anodd."
Costau byw yn codi ac effaith ar fasnachwyr
Mae costau byw wedi codi yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae chwyddiant yn effeithio ar gost bwyd, ynni, rhenti a morgeisi.
Fel rhan o gwmni teuluol yng Nghastellnewydd Emlyn, mae Angela'n ceisio bod yn sensitif i sefyllfaoedd pob un o'i chwsmeriaid.
Maen nhw'n delio'n bennaf â phrosiectau amaethyddol, masnachol a phreswyl - ond gyda phrosiectau mawr fel ailweirio eiddo neu osod systemau solar ac ynni gwyrdd mae cwsmeriaid wedi bod yn ei chael hi'n anodd talu medde nhw.
'Mae'n gyfnod anodd i bawb'
Mae cwsmeriaid yn aml eisiau gwybod beth fydd y gost yn llawn cyn comisiynu.
"O'r blaen roedden nhw'n ein bwcio gan wybod yn fras faint fyddai'n costio," dywedodd Angela.
Fel rhan o feithrin perthynas â chwsmeriaid, mae'r cwmni wedi cyflwyno polisïau fel caniatáu talu wrth yr awr,
"Mae'n gyfnod anodd i bawb," meddai. "Mae pris popeth wedi codi gymaint.
A ninnau â phum trydanwr ry'n ni angen y gwaith felly ry'n ni'n trio gweithio gyda'r cwsmer a'r hyn y maen nhw ei angen."
Costau cwmni DLM Tree Services yng Nghaerdydd
Mae costau cwmni DLM Tree Services yng Nghaerdydd yn cyfateb i 3,000 y mis "boed yna waith neu beidio" ac mae hynny cyn gorfod talu cyflogau.

Mae bargeinio dros brisiau yn rhan o fywyd bob dydd bellach i Dom Meletti, cyfarwyddwr DLM Tree Services yng Nghaerdydd.
Mae'r cwmni'n tocio gwrychoedd ac yn gofalu am goed ar ran busnesau a phreswylwyr o amgylch y brifddinas gan fynnu "prisiau gosod ond teg".
"Ry'n ni heb gytuno erioed i ostwng ein prisiau," dywedodd.
"Os oes rhywun yn gofyn a allwn ni wneud e'n rhatach ry'n ni'n esbonio'n gwrtais mai dyna, yn anffodus, yw pris y job.
"90% o'r adeg maen nhw'n cytuno i'r job beth bynnag."
Mae Dom, 28, yn deall sefyllfa'r cwsmeriaid, ond mae costau'r cwmni'n 3,000 y mis cyn talu cyflogau, boed yna waith neu beidio.
"Pan mae pobl yn ceisio dadlau i ddod â'r pris i lawr dyw e ddim yn teimlo'n grêt ond fel cyfarwyddwr sydd angen byw hefyd rwy'n deall bod pethau'n ddrud ac weithiau ry'ch chi angen gwneud rhywbeth gan obeithio gall fod yn rhatach."
Statistigau a strategaethau masnachwyr
Yn rhan o'u harolwg fe holodd Direct Line 500 o fasnachwyr, ac roedd masnachwyr ar gyfartaledd yn ceisio casglu 2,023 yr un o ran taliadau hwyr.
Dywedodd 42% eu bod wedi gorfod dileu dyledion o 500 neu fwy wedi i gwsmeriaid fethu â'u talu, ac mae 20% wedi rhoi'r gorau ar geisio mynd ar ôl taliadau hwyr o 1,000 neu fwy.
Erbyn hyn, mae llawer yn amddiffyn eu hunain trwy gamau fel holi am brawf bod gan gwsmer yr arian cyn iddyn nhw ddechrau ar y gwaith.
Mae eraill yn gofyn am hanner yr arian o flaen llaw, a rhoi anfoneb am y gweddill cyn gorffen y gwaith, neu'n codi ffïoedd am dalu'n hwyr.
Profiadau gwahanol masnachwyr gyda thaliadau hwyr
Nid pob masnachwr sydd wedi cael trafferthion gyda thaliadau hwyr - dywed y plwmwr Gavin Shopland fod ei gwsmeriaid yn deyrngar ac yn talu'n brydlon.

Yn aml, mae masnachwyr yn teimlo bod dim dewis ond dileu biliau heb eu talu, medd Mark Summerville o Direct Line, ac mae hynny'n niweidiol yn ariannol ac "yn hynod dorcalonnus".
"Taliadau hwyr yw'r broblem fwyaf yn aml i fasnachwyr," dywedodd.
"Pan dyw cleient methu â thalu mewn pryd ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau, mae'n gallu creu straen aruthrol.
"Mae oedi wrth dalu'n amharu ar gyllid personol a chyllid y busnes, gan effeithio ar eu gallu i dalu biliau a rheoli'r llif arian ar gyfer prosiectau'r dyfodol."
Serch hynny, mae rhai masnachwyr wedi osgoi profiadau negyddol hyd yn hyn, fel Gavin Shopland, 51, o Gaerdydd.
Mae'n blwmwr hunangyflogedig ers 2009 ac mae ei gwsmeriaid yn dod ato am wasanaeth dro ar ôl tro.
"Rwy'n meddwl mai'r rheswm mae fy nghwsmeriaid i'n dda iawn am dalu'n brydlon yw am eu bod yn deyrngar," dywedodd.
"Dydw i ddim yn cael unrhyw ddadlau dros y pris. Rwy'n eitha' teg 'efo hwnnw - y pris yw'r pris."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.






