Skip to main content
Advertisement

Adam Price Proposes Ambitious Plan to Transform Wales' Economy

Adam Price unveils an ambitious plan to boost Wales' economy by closing the productivity gap with the UK, supporting business growth, and ensuring economic benefits reach all communities.

·3 min read
Adam Price

Cynllun uchelgeisiol i drawsnewid economi Cymru

Cynllun Adam Price, meddai, yw gwerthu Cymru o amgylch y byd.

Mae Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni Llywodraeth Cymru yn dweud y dylai fod yn haws sefydlu busnes newydd yng Nghymru nag yn unman arall yn y DU.

Daw amcan "uchelgeisiol" Plaid Cymru wrth i Gymru fod ar ei hôl hi o ran datblygiad a thwf economaidd o'i gymharu â'r gwledydd eraill - ar hyn o bryd, mae cynhyrchiant Cymru 15% yn is na chyfartaledd gweddill y DU.

Gobaith Adam Price yw haneru'r bwlch cynhyrchiant rhwng Cymru a gwledydd y DU yn ystod y ddegawd nesaf.

Drwy roi "ffocws penodol ar gefnogi cwmnïau i ehangu" mae'n gobeithio gall y dull newydd fod yn "drawsnewidiol" a chael "ei deimlo ar draws pob cymuned".

'Gwireddu ein potensial ni'

Wrth gyflwyno ei Ddatganiad Llafar cyntaf i'r Senedd ddydd Mawrth, dywedodd Adam Price fod Llywodraeth newydd Cymru wedi ymrwymo i fabwysiadu dull gwahanol, gyda'r nod o ddod â chenedlaethau o gynhyrchiant isel i ben.

Wrth esbonio beth mae cynhyrchedd yn ei olygu, dywedodd Mr Price ar raglen Dros Frecwast fore Mercher,

"dyna'r prif beth sy'n gyrru'r economi" ac yn y pen draw yn golygu "cyflogau" i bobl ar lawr gwlad.

"Os ydi cynhyrchedd yn codi yna mae'n bwydo mewn i gyflogau uwch, swyddi gwell ym mhob sector ayyb," esbonia.

Mewn datganiad fe ddywedodd y llywodraeth y bydd y dull newydd yn "cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â busnesau, undebau llafur, rhanddeiliaid rhanbarthol a Llywodraeth y DU" er mwyn helpu busnesau i ehangu "fel y gallan nhw gystadlu mewn marchnadoedd gwerth uchel".

Ychwanegon nhw y bydd hyn yn cael ei gefnogi gan "system sgiliau ddiwygiedig sy'n arfogi pobl nid yn unig ar gyfer gwaith, ond ar gyfer datblygu eu gyrfa".

Advertisement

Plaid Cymru am gychwyn cynllunio taliad plant 'ar unwaith'

Cymru i gael £540m i dyfu'r economi dros dair blynedd

Aeth Mr Price ymlaen ar Dros Frecwast i ddweud fod gan y cynllun hwn botensial i fod yn "wirioneddol drawsnewidiol" i Gymru a'i heconomi.

Ychwanegodd fod "rhai o'r penderfyniadau ar lefel Brydeinig yn mynd i effeithio ar yr amgylchedd economaidd".

Ond roedd o'r farn fod gan Gymru ddigon o "leavers" ac felly "mae gyda ni gyfle i alinio, i sicrhau bod ein cynllun ni, yr holl ymyriadau, polisïau ayyb, yn unol â'r llwybr sydd ei hangen arnom ni".

Pwysleisiodd hefyd fod y cynllun am edrych ar bob ardal yng Nghymru, nid yn unig y dinasoedd:

"Mae'n rhaid sicrhau, nid yn unig bo' ni'n gweld twf o ran cynhyrchedd, ond bod y twf yna'n cael ei wasgaru mor gyfartal ag y ni'n gallu sicrhau ar draws Cymru."

"Maen nhw [Llywodraeth y DU] wedi gosod nod o ran tyfiant economaidd, ry'n ni'n gosod nod o ran cynhyrchedd o lefel Cymraeg... mae 'na le i gydweithio er budd pobl Cymru."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News