Skip to main content
Advertisement

30% o fusnesau bach Cymru yn ystyried cau, gwerthu neu leihau yn 2024

Mae 30% o fusnesau bach Cymru yn ystyried cau, gwerthu neu leihau maint yn 2024, gyda canolfan Dre Twt yn Sanclêr yn cau oherwydd costau cynyddol. Mae FSB Cymru yn galw am gefnogaeth i'r sector lletygarwch a hamdden wrth i hyder busnesau ddisgyn.

·5 min read
Nia Maynard

Canolfan Dre Twt yn Sanclêr yn cau ar ôl saith mlynedd

Mae Nia Maynard yn mynegi siom am orfod cau canolfan Dre Twt yn Sanclêr, Sir Gaerfyrddin, er iddi lwyddo i oroesi cyfnod y pandemig.

Yn ôl Ffederasiwn y Busnesau Bach (FSB) yng Nghymru, mae 30% o fusnesau bach yn y wlad yn ystyried cau, gwerthu neu leihau maint yn ystod y flwyddyn nesaf.

Mae'r FSB yn nodi bod hyder busnesau yn isel ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i warchod y sector lletygarwch a hamdden rhag cynnydd mewn costau.

Mae canolfan chwarae Dre Twt, sydd wedi bod ar agor am saith mlynedd, yn cau ar ôl gwyliau'r Pasg oherwydd effaith costau cynyddol ar y busnes.

Dywedodd Nia Maynard, perchennog y ganolfan, fod y penderfyniad i gau wedi ei gwneud ar ôl i gostau gynyddu'n sylweddol.

"Ni wedi newid y busnes er mwyn ceisio cadw fynd," meddai. "Mae'n siomedig iawn. Fi wedi rhoi popeth mewn - mae gyd o life savings wedi mynd mewn i hyn. O'n i'n gwybod bod e'n risg, ond mae wedi bod yn un peth ar ôl y llall. Ni wedi dod i'r pwynt mae rhywbeth yn gorfod mynd. Yn anffodus, y ganolfan fydd yn gorfod mynd."

Mae hi'n disgrifio sut mae costau'r busnes wedi cynyddu mewn sawl agwedd, gan gynnwys cost petrol, trydan, yswiriant, a chostau cynnyrch fel coffi.

"Mae popeth wedi mynd lan, o gost petrol sydd yn effeithio ar bobl sydd yn dod yma. Ni wedi cael lot o ysgolion yn dweud bod nhw methu dod ati achos maen nhw wedi methu fforddio bysus i ddod aton ni. Mae pobl yn tynnu nôl o brynu coffi. Mae popeth yn cael knock-on effect. Mae costau trydan, yr insurance wedi mynd lan. Chi'n mynd wedyn i brynu pethau fel y coffi a mae hynny wedi mynd lan, a'r rental ar gyfer y machine wedi mynd lan. Ni wedi gorfod rhoi hwnna i'r cwsmer, ond mae'r cwsmer ddim yn gallu fforddio fe chwaith."

Bydd canolfan Dre Twt yn cau, er bydd y gwasanaeth symudol mewn ysgolion lleol yn parhau.

Llun o du allan i ganolfan Dre Twt yn Sancler
Disgrifiad o’r llun, Bydd canolfan Dre Twt yn Sanclêr yn cau, er bydd y gwasanaeth symudol mewn ysgolion lleol yn parhau

Ffederasiwn y Busnesau Bach yn nodi dirywiad mewn hyder busnes

Yn ôl FSB Cymru, mae mwy o fusnesau yn ystyried lleihau maint, cau neu werthu (30%) nag sydd yn bwriadu ehangu (18%).

Arwydd ar gau
Disgrifiad o’r llun, Yn ôl FSB Cymru, mae mwy o fusnesau yn ystyried lleihau, cau neu werthu, nag sydd yn bwriadu ehangu

Mae Nia Maynard yn dweud ei bod hi'n gwybod am fusnesau eraill yn yr ardal sydd yn wynebu'r un problemau.

"Dyw e ddim yn sioc o gwbl. Fi'n 'nabod pobl eraill sydd yn dweud yr un peth, sef bod nhw wedi gorfod torri nôl neu gau, a hefyd dyw pobl ddim yn cael plant rhagor achos dyw nhw ddim yn gallu fforddio codi nhw, ac mae hynny yn mynd i effeithio busnesau."

Advertisement

Yn ôl ymchwil yr FSB, y pryder mwyaf i fusnesau yw cyflwr yr economi (68%) a threthi (45%).

Mae'r ffederasiwn wedi galw am warchod busnesau lletygarwch a hamdden rhag cynnydd mewn trethi busnes ac wedi ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid, Mark Drakeford, i godi pryderon.

Hyder busnesau yn disgyn a galwad am gefnogaeth

Dywedodd Dr Llyr ap Gareth, pennaeth polisi i FSB Cymru, fod hyder busnesau wedi disgyn yn sylweddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

"Mae mwy yn fwy tebygol o gau lawr nac o dyfu," meddai. "Mae'n holl bwysig bod yna gefnogaeth i fusnesau bach i oresgyn y cyfnod yma ac i dyfu eto yn y dyfodol.
"Ar hyn o bryd maen nhw yn wynebu lot o gostau. Un ydy fod costau ardrethi busnes yn codi achos bod eu safle busnes yn cael ei ailbrisio.
"Yn ogystal, maen nhw yn colli cefnogaeth o 40% oddi ar ei biliau o fis Ebrill ymlaen, felly 'da ni yn poeni bod hyn yn mynd i arwain at lot o drafferthion i'r busnesau yma a bod rhai ddim yn mynd i fedru goresgyn hyn.
"Da ni yn cefnogi ac yn croesawu y fformiwla newydd gan Lywodraeth Cymru i fân-werthwyr, sydd yn golygu bod eu bil nhw yn llai, ond 'da ni eisiau iddyn nhw ymestyn y gefnogaeth hynny i'r sector hamdden a lletygarwch hefyd."

Mae'r Ffederasiwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'r trothwy ar gyfer rhyddhad ardrethi busnesau bach i £12,000 i gyd-fynd â lefel Lloegr.

Cymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod £116m ar gael mewn cymorth pontio dros y ddwy flynedd nesaf i fusnesau, ac iddi ddarparu £1bn o gefnogaeth ariannol i fusnesau ers 2020.

Mae'r llywodraeth hefyd wedi ymrwymo i ddarparu £8m mewn rhyddhad ardrethi ychwanegol ar gyfer busnesau lletygarwch, bwyd a diod, a fydd yn lleihau biliau i tua 4,400 o fusnesau lletygarwch.

Yn ôl y llywodraeth, nid yw tua hanner busnesau Cymru yn talu ardrethi busnes o gwbl.

Safbwyntiau gwleidyddol ar sefyllfa busnesau bach

Dywedodd Plaid Cymru fod y llywodraeth Lafur wedi "methu mynd i'r afael â'r heriau sydd yn wynebu'r economi" ac bod y stryd fawr yn gwagio.

Mae Plaid Cymru yn cynnig "ysgafnhau'r baich" ar fusnesau lletygarwch a manwerthu drwy ehangu'r lluosydd cyfraddau-is i fusnesau lletygarwch bach a chanolig.

Arweinydd Reform yng Nghymru, Dan Thomas, fe gyhuddodd y Blaid Lafur a Phlaid Cymru o greu "hinsawdd elyniaethu i fusnesau bach".

Dywedodd y byddai Reform yn cynnig polisïau i gefnogi busnesau bach a'u gweithwyr ar draws Cymru.

Mae'r Ceidwadwyr, y Blaid Werdd a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cael cais i ymateb.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok. Anfonwch syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033. Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News