Skip to main content
Advertisement

Canolfan Gymraeg Caerfyrddin Yr Atom ar werth am £350,000

Mae Canolfan Gymraeg Caerfyrddin, Yr Atom, a agorwyd yn 2015 gyda chymorth grant Llywodraeth Cymru, wedi cael ei rhoi ar werth am £350,000 gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, wrth i'r brifysgol wynebu heriau ariannol a gostyngiad mewn defnydd ers y pandemig.

·6 min read
Yr Atom

Canolfan Gymraeg Caerfyrddin, Yr Atom, ar werth am £350,000

Mae Canolfan Gymraeg Caerfyrddin, a agorwyd yn 2015 gyda chymorth grant o £355,000 gan Lywodraeth Cymru, wedi cael ei rhoi ar werth gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Cafodd Yr Atom ei agor yn 2015 gan y Prif Weinidog Carwyn Jones, ac mae ar y farchnad am £350,000.

Mae cyn-brif weithredwr Bwrdd yr Iaith, Meirion Prys Jones, wedi disgrifio'r penderfyniad i ddefnyddio dros £2m o arian cyfalaf y llywodraeth i brynu adeiladau ar gyfer canolfannau Cymraeg fel "gwastraff arian".

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod Yr Atom wedi creu "cyfraniad pwysig", ond yn ôl y brifysgol mae "defnydd o'r ganolfan wedi gostwng" ers y pandemig.

Ychwanegodd y brifysgol eu bod yn wynebu "heriau ariannol" ac nad ydyn nhw'n "medru parhau i ariannu'r ganolfan".

Roedd Yr Atom yn rhan o ymdrech i gryfhau presenoldeb y Gymraeg mewn trefi

Yr Atom
Disgrifiad o’r llun, Roedd Yr Atom yn rhan o ymdrech i gryfhau presenoldeb y Gymraeg mewn trefi

Cafodd pryder ei fynegi am ddiffyg gweithgareddau Cymraeg yn Yr Atom yn 2018, ac fe godwyd cwestiynau bryd hynny am ddyfodol hir dymor y canolfannau Cymraeg a gafodd eu hariannu gan lywodraeth Carwyn Jones.

Mewn hysbyseb ar eu gwefan, mae cwmni Savills yn dweud bod Yr Atom yn "adeilad deulawr atyniadol sydd yn cynnig cyfleoedd buddsoddi sylweddol".

Ar y pryd, dywedodd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant mai'r nod wrth greu'r Atom oedd sicrhau bod y Gymraeg "i'w gweld a'i chlywed yn amlach ar hyd a lled y dre".

'Gwastraff arian'

Wrth ymateb i'r newyddion bod trydedd ganolfan iaith wedi cau, dywedodd cyn-brif weithredwr Bwrdd yr Iaith, Meirion Prys Jones bod penderfyniad y llywodraeth i fuddsoddi tua £2.5m mewn canolfannau Cymraeg wedi bod yn "wastraff arian".

"Mae angen cefnogaeth o'r gymuned, mae angen cefnogaeth gan sefydliad fel y cyngor sir, a hefyd mae angen sicrhau bod yna bobl sydd yna sydd yn arbennig o frwdfrydig dros symud y cyfan yn ei flaen," meddai.

Ychwanegodd fod perygl y gallai buddsoddi heb yr elfennau hynny arwain at "fwy o niwed yn y pendraw" a chodi gobeithion heb eu gwireddu.

"Heb y gefnogaeth gymunedol, heb y sicrwydd bod yr arian yn parhau dros nifer o flynyddoedd, byddai'r math yna o fuddsoddiad ddim gwerth y buddsoddiad - yn codi gobeithion yn hytrach na chyflawni dim."

Dywedodd Meirion Prys Jones y gallai buddsoddi heb gefnogaeth ddigonol arwain at "fwy o niwed yn y pendraw"

Meirion Prys Jones
Disgrifiad o’r llun, Dywedodd Meirion Prys Jones y gallai buddsoddi heb gefnogaeth ddigonol arwain at "fwy o niwed yn y pendraw"

Dywedodd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant nad oedd "cymorth ariannol hirdymor i gynnal y ganolfan" a'u bod wedi "darparu arian cyfatebol a chynnal Yr Atom a'i waith ers 2015".

Dywedodd y brifysgol fod defnydd o'r Atom wedi gostwng ers y pandemig, gyda llai o denantiaid a sefydliadau yn defnyddio'r adeilad.

"Ar yr un pryd, mae costau cynnal a chadw a sicrhau adnoddau'r adeilad wedi cynyddu," meddai'r brifysgol.
"O ystyried yr heriau ariannol cwbl hysbys sy'n wynebu'r sector addysg uwch, ac fel elusen sy'n dibynnu i raddau helaeth ar ffioedd myfyrwyr am ei hincwm, nid yw'r brifysgol yn gallu parhau i ariannu'r ganolfan."

Dyfodol y polisi a'r canolfannau

Dywedodd Wynfford James o Gymdeithas yr Iaith nad oedd hi'n syndod iddo bod Yr Atom wedi cau a bellach ar werth, a bod dyhead gan y llywodraeth i ymateb i ganlyniadau'r cyfrifiad yn 2011 oedd wedi dangos gostyngiad 6.4% yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin.

Advertisement
"Fe sefydlwyd y ganolfan gyda grant cyfalaf o'r llywodraeth, yn dilyn sgwrs genedlaethol dan arweiniad Carwyn Jones pan oedd ganddo bortffolio yr iaith Gymraeg ac yn Brif Weinidog.
"Roedd y weinyddiaeth yn awyddus iawn i gael ei gweld yn gwneud rhywbeth.
"Dwi ddim yn meddwl bod y polisi yn seiliedig ar dystiolaeth, ac wedi cael ei ruthro, ac o ganlyniad, mae'n amlwg bod y polisi yn ddiffygiol a'r llywodraethu yn wantan."

Yn ôl Mr James, roedd Yr Atom wedi "ceisio bod yn bopeth i bawb" yn hytrach na chanolbwyntio ar rai agweddau penodol, ac mae'n cwestiynu "a oedd angen canolfan o'r math yma mewn tref mor Gymreigaidd â Chaerfyrddin?"

Wynfford James
Disgrifiad o’r llun, Dywedodd Wynfford James nad oedd y polisi y tu ôl i'r canolfannau wedi'i seilio ar dystiolaeth a'i fod wedi'i ruthro

Cwestiynu dyfodol canolfannau Cymraeg

Yn ôl Llywodraeth Cymru, fe greodd Yr Atom "gyfleusterau cymdeithasol, hamdden a busnes i'r gymuned gyfan", a'i bod wedi gwneud "cyfraniad pwysig".

Dywedodd Prifysgol y Drindod Dewi Sant eu bod nhw'n "parhau yn gwbl ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo'r Gymraeg yng Nghaerfyrddin" a bod nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yng nghanolfan Yr Egin.

Ychwanegon nhw nad oedd "gweledigaeth tymor hir" ar gyfer y ganolfan.

Mae canolfannau tebyg, gan gynnwys Y Lle yn Llanelli a'r Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd, eisoes wedi cau.

Mae canolfannau eraill fel Tŷ'r Gwrhyd ym Mhontardawe yn parhau ar agor, ynghyd â chanolfan Popty ym Mangor sydd dan ofal Menter Iaith Gwynedd.

Mae statws rhai o'r canolfannau eraill yn aneglur, er gwaethaf ymdrechion Newyddion S4C i gysylltu gyda'r sefydliadau wnaeth dderbyn y grantiau.

Doedd Ysgrifennydd y Gymraeg, Mark Drakeford, ddim ar gael i'w holi.

'Angen gweithredu'

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros yr iaith, Heledd Fychan fod "hyn yn dangos pam bod dirfawr angen llywodraeth newydd ar Gymru - llywodraeth fydd yn sicrhau bod yna strategaeth a thargedau ynghlwm gyda gwariant os ydyn ni am weld y Gymraeg yn ffynnu a chynyddu defnydd".

"Nid yw dweud bod y Gymraeg yn perthyn i bawb yn ddigon. Mae angen gweithredu hefyd."

Dywedodd llefarydd ar ran Reform UK: "Rydyn ni eisiau gweld yr iaith Gymraeg yn tyfu a pharhau i ffynnu, a bydden ni'n gweithio gyda phartneriaid er mwyn sicrhau bod hynny'n digwydd."

Yn ôl llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, mae'r blaid yn "dal y Gymraeg wrth wraidd ein hunaniaeth genedlaethol ac yn parhau i fod yn gefnogwyr balch ohoni".

"Byddwn yn hyrwyddo ehangu parhaus addysg cyfrwng Cymraeg, gan roi cyfle i bobl ifanc ddod yn hyderus ac yn rhugl yn y Gymraeg a chwalu'r rhwystrau sy'n wynebu oedolion sy'n dysgu."

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Werdd y bydden nhw'n "defnyddio polisïau cynllunio a thai i gefnogi cymunedau Cymraeg cynaliadwy".

"Bydd y Gwyrddion hefyd yn gwneud dysgu'r iaith Gymraeg ar gael am ddim ac yn hygyrch i bobl o bob oed."

Mae'r prif bleidiau gwleidyddol eraill wedi cael cais am sylw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement