Hanes Cynnar y Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru
Yn y 1940au, roedd Tafarn y Prince of Wales yng nghanol Caerdydd yn gartref cyntaf Opera Cenedlaethol Cymru (WNO), cyn iddo ddod yn gyrchfan adnabyddus i gefnogwyr rygbi ar ddiwrnod gêm fawr.
Ar 15 Ebrill 1946, cynhaliwyd y perfformiadau cyntaf gyda'r operâu Cavalleria Rusticana a Pagliacci yn cael eu perfformio'n gefn wrth gefn, gyda pherfformiad o Faust y noson wedyn.
Mae'r cynyrchiadau cynnar hyn wedi gwneud argraff fawr, gan ddenu pobl o bell i ymuno â'r corws.
Mae ambell i nodwedd yn bodoli hyd heddiw sy'n awgrym o hanes y Prince of Wales

Yn ôl Geraint Lewis, cerddor a chyfansoddwr, roedd opera yn boblogaidd iawn yn y cyfnod hwnnw.
"Roedd y corws ar y pryd yn hollol amatur. Doedden nhw ddim yn gweithio fel cerddorion proffesiynol," meddai. "Bydden nhw i gyd yn dod o wahanol gefndiroedd, yn teithio lawr o'r cymoedd ac o'r gorllewin i Gaerdydd i greu breuddwyd newydd sef cwmni opera Cymreig am y tro cynta'." "Roedd pobl yn dwlu mynd i weld cwmni opera Carl Rosa, oedd yn teithio bobman, ac roedd repertoire opera yn y cyfnod hwnnw yn repertoire digon poblogaidd."
Poster yn hysbysebu'r perfformiadau cyntaf

Presenoldeb a Heriau Cyfoes y WNO
80 mlynedd yn ddiweddarach, mae Opera Cenedlaethol Cymru bellach yn gweithredu o Ganolfan y Mileniwm, lle maen nhw'n paratoi ar gyfer perfformiad o opera Wagner, The Flying Dutchman, a fydd ar daith tan ganol Mai.
Yn ystod blynyddoedd diweddar, mae toriadau ariannol wedi effeithio ar y cwmni, gan dorri tua chwarter o'i gyllideb, yn ôl ymgyrchwyr. Mae hyn wedi arwain at dorri 'nôl ar deithio a pheidio â llenwi swyddi gwag.
Er hynny, mae Sarah Crabtree ac Adele Thomas, y ddwy sy'n rhannu'r gwaith o arwain y cwmni, yn parhau i fod yn optimistaidd ynglŷn â dyfodol y WNO.
Sarah Crabtree ac Adele Thomas yw cyd-brif weithredwyr a chyfarwyddwyr y WNO

"Mae'r argyfwng ry'n ni wedi bod drwyddo yn gwneud i bobl sylweddoli be' mae'r WNO yn ei olygu iddyn nhw," meddai Adele Thomas. "Ry'n ni wedi gweld cynnydd mawr mewn cefnogaeth i'r cwmni, i'n hunawdwyr, i'r corws, y gerddorfa a'r timau technegol. "Dyna pam ry'n ni'n gwybod fod gyda ni 80 mlynedd arall o'n blaenau achos dyw pobl Cymru ddim yn mynd i adael i'r WNO fynd â'i ben iddo."
Ychwanegodd Sarah Crabtree: "Mae pethau wedi setlo o gymharu â lle'r oedden ni flwyddyn yn ôl, ond mae'n frwydr nid dim ond i'r WNO ond i opera yn gyffredinol ac i'r sector gelfyddydol yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a thu hwnt. "Mae 'na deimlad taw Cymru piau'r cwmni, yn wahanol i Loegr lle mae opera'n teimlo'n fwy dieithr."
Gyrfaoedd a Gobaith y Genhedlaeth Ifanc
Yn 27 oed, mae'r bariton Owain Rowlands yn edrych ymlaen at yrfa ym myd opera, gan ddweud bod bod yn artist cyswllt gyda'r cwmni yn gyfle euraid i feithrin profiad a hyder.
Mae Owain Rowlands yn gobeithio cael gyrfa ym myd opera

"Mae'n golygu cymaint i fi fel artist ifanc. Dyma lle ni'n gallu magu profiad a hyder," meddai. "Mae gymaint o bobl yn mynd i'r Eisteddfod yn tyfu lan, a dyma'r cam nesaf i ni fel cantorion Cymru. "Chi'n edrych 'nôl ar yrfaoedd Rebecca Evans neu Bryn Terfel - dyma lle cychwynnodd e iddyn nhw, ac maen nhw wedi cael gyrfaoedd rhyngwladol. "Gobeithio bydd hynny'n gallu digwydd i nifer fawr ohonom ni yn y dyfodol hefyd. "Mae gan bobl gamargraff o beth yw opera, ei fod e'n rhy ddrud, bod rhaid i chi wisgo lan yn smart a bod yr opera'n rhy hir 'fyd. "Mae'n rhaid iddyn nhw ddod i weld rhywbeth fel Blaze of Glory - bydde hwnna'n berffaith i ddechrau gyda."
Heriau a Strategaethau i Gynyddu Cynulleidfaoedd
Mae Adele Thomas yn pwysleisio'r angen am gydbwysedd rhwng traddodiadol a modern, gan nodi bod cynhyrchu mwy o operâu Cymraeg eu hiaith yn flaenoriaeth ar gyfer y blynyddoedd nesaf.
"Mae 'na gynulleidfa fawr sydd ddim yn credu bod Opera'n berthnasol iddyn nhw ar hyn o bryd," meddai. "Cyn gynted ag y'ch chi'n goresgyn y rhwystrau hynny dwi'n meddwl y gwelwn ni fwy o bobl yn dod."
Yn ôl Geraint Lewis, gallai ffrydio cynyrchiadau o Ganolfan y Mileniwm mewn sinemâu ar draws Cymru fod yn ffordd effeithiol o godi proffil opera a denu cynulleidfa newydd.
Mae'r Met yn Efrog Newydd, Covent Garden a Glyndebourne yn defnyddio'r dull hwn eisoes.
"Dyle fod Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn ffrydio pob cynhyrchiad o lwyfan Canolfan y Mileniwm i theatrau bach dros Gymru i gyd," meddai. "Bydde pobl yn gallu gweld y cynyrchiadau yma yng Nghaergybi, Caernarfon, Aberteifi... Mae pawb yn 'neud e heblaw opera Cenedlaethol Cymru. "Dyma gyfle i ddemocrateiddio opera dros Gymru fel bod pobl yn gweld ei fod e'n rhywbeth sy'n cynhyrfu chi. "Mae opera yn 'neud i'r gwallt godi ar gefn eich pen ac mae ishe i bawb gael y profiad yna."
Yn ôl Geraint Lewis, gall opera "wneud i'r gwallt godi ar gefn eich pen"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok. Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033. Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau Cysylltiedig a Straeon Perthnasol
- WNO: Rhai o sêr Cymru yn beirniadu toriadau
- Protest yn y Senedd yn erbyn toriadau i gwmni opera
- Cantores opera yn troi at ofalu oherwydd diffyg gwaith






