Skip to main content
Advertisement

Galw am Oriel Gelf Genedlaethol i Hybu Celf Gyfoes Cymru

Enwau blaenllaw yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Oriel Gelf Genedlaethol i hyrwyddo celf gyfoes Cymru, gan bwysleisio pwysigrwydd un lleoliad canolog dros rhwydwaith o orielau.

·4 min read
Pram yn y Cyntedd gan Angharad Pearce Jones

Galw am Oriel Gelf Genedlaethol i roi statws i gelf gyfoes

Darn o waith celf gyfoes 'Pram yn y Cyntedd' gan Angharad Pearce Jones

Mae enwau blaenllaw o'r byd celfyddydol wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu un brif Oriel Gelf Genedlaethol ar gyfer gwaith cyfoes.

Fe wnaeth Plaid Cymru ymrwymo i gefnogi rhwydwaith o orielau celf gyfoes yn eu maniffesto cyn cael eu hethol, yn hytrach nac un prif adeilad.

Ond mae sawl un yn credu bod angen un prif safle penodol er mwyn cynyddu amlygrwydd a dathlu "gwaith anhygoel" artistiaid Cymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod "yr Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol yn bodoli fel rhwydwaith o orielau ledled Cymru ac fel platfform ar-lein".

Ychwanegodd mai'r "bwriad yw i adeiladu ar y sylfaen hon trwy fwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer 'angorfa' sy'n cryfhau ein gallu i gynnal partneriaethau ac arddangosfeydd o bwys."

Y drefn bresennol 'ddim yn gweithio'

Ar hyn o bryd, mae naw galeri ar draws y wlad yn arddangos celf gyfoes, wedi i'r llywodraeth flaenorol ymrwymo i ddatblygu rhwydwaith Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru fel rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru.

Er bod Plaid Cymru wedi dweud eu bod nhw am gefnogi'r "datblygiad parhaus" o'r rhwydwaith, mae rhai yn credu mai arddangos yr holl gelfi o dan un to fyddai orau.

"Mae amgueddfa gelf gyfoes i wlad yn dweud rhywbeth am eich hyder chi, am eich gwlad chi," meddai Angharad Pearce Jones

Yn arlunydd a cherflunydd, mae Angharad Pearce Jones yn dweud bod y drefn bresennol "ddim yn gweithio".

Advertisement

Dywedodd: "Tydi pobl ddim yn gwybod amdano fo. Mae angen bod mewn un lle.

"Mae amgueddfa gelf gyfoes i wlad yn dweud rhywbeth am eich hyder chi, am eich gwlad chi.
"Y peth cyntaf dwi'n ei wneud pan dwi'n mynd i wlad arall ydy mynd i weld i amgueddfa gelf gyfoes - nhw sydd wastad yn dysgu chi am y wlad yna."

Mae Angharad yn credu fod ardal ddiwylliannol fel Port Talbot yn lleoliad "delfrydol" i'r adeilad o'i fath, gyda Banksy ei hun wedi achosi cynnwrf yno gyda'i waith yn 2018.

Angharad Pearce Jones
Disgrifiad o’r llun, "Mae amgueddfa gelf gyfoes i wlad yn dweud rhywbeth am eich hyder chi, am eich gwlad chi," meddai Angharad Pearce Jones

Er yn diolch am yr orielau o amgylch Cymru, mae Beti George yn dweud bod angen un lleoliad canolog hefyd

Er yn cyfaddef nad yw hi'n feirniad celf, mae'r darlledwr Beti George hefyd eisiau gweld un adeilad canolog ar gyfer "gwaith anhygoel" artistiaid cyfoes Cymru.

"Dwi wir yn credu bod celf yn cynrychioli enaid cenedl," meddai.
"Dwi'n meddwl bod yr ysbryd yma ymhlith pobl ifanc Cymru y dyddiau yma, bod nhw yn wirioneddol yn gwerthfawrogi beth sy'n digwydd yng Nghymru, a mae hynny wrth gwrs yn cynnwys celf.
"Mae'r orielau yma o gwmpas Cymru, a diolch byth amdanyn nhw.
"Ond, yn ogystal â hynny, mae angen un lleoliad oes, canolog, fel bod ni'n cael y cyfle i weld y gweithiau yma i gyd gyda'i gilydd.
"Efallai bod hyn yn mynd i godi dadl, ond dwi'n meddwl mai yn y brifddinas y dylai hi fod."
Beti George
Disgrifiad o’r llun, Er yn diolch am yr orielau o amgylch Cymru, mae Beti George yn dweud bod angen un lleoliad canolog hefyd

Mae Aur Bleddyn yn gweithio fel curadur llawrydd yn y diwydiant celf

Mae Aur Bleddyn yn guradur llawrydd, ac yn credu y byddai oriel angor yn hwb i artistiaid, yn ogystal ag ymwelwyr.

"Dwi'n meddwl bydd o'n rhywbeth fydd twristiaid yn chwilio am, ond yn beth rili hanfodol ar gyfer artistiaid ar gychwyn eu gyrfa, lle maen nhw'n chwilio am ysbrydoliaeth ac fel safle i anelu ar eu cyfer," meddai.
"Mae yna artistiaid yn y casgliad sydd wir angen cael eu gweld, megis Ifor Davies.
"Ond mae gennym ni hefyd artistiaid cyfoes sydd yn ymarfer rŵan... chi'n edrych ar Dylan Huw a Manon Awst.
"Bydd o'n anhygoel i weld arddangosfeydd amharhaol yn cael ei rhaglennu gyda'r artistiaid, ac wedyn oriel barhaol yn dangos gweithiau o'r casgliad."
Aur Bleddyn
Disgrifiad o’r llun, Mae Aur Bleddyn yn gweithio fel curadur llawrydd yn y diwydiant celf

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol

  • Sîn celf weledol y gogledd yn 'gryfach o achos diffyg buddsoddiad'
  • 'Chwilfrydedd chwareus' artist sydd wedi ei dylanwadu gan y ffin
  • A fydd adeilad newydd i oriel gelf gyfoes?

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News