Leisa Gwenllian, 24, yn Chwarae Effi yn y Ffilm
Yn ôl cyfarwyddwr y ffilm newydd ar S4C, mae'n "anarferol" bod y ffilm wedi derbyn cymaint o ymateb y tu allan i Gymru.
Bydd "Effi o Blaenau" yn cael ei ddangos gydag is-deitlau mewn sinemâu ledled Prydain o 19 Mehefin ymlaen.
Cyn hynny, bydd y ffilm yn cael ei lansio mewn digwyddiad yng nghanolfan Cell B ym Mlaenau Ffestiniog nos Fercher.
Dywedodd Marc Evans ei fod yn:
"meddwl bod ffilm gydag is-deitlau nawr ddim yn golygu bod o'n ffilm uchel-ael, neu anodd ei ddeall, mae o just yn ffilm sydd mewn iaith arall".
Mae'n ychwanegu:
"Dwi'n falch o ddweud bod Effi yn fanna - ysgwydd yn ysgwydd gyda ffilmiau mewn pob iaith gydag is-deitlau gall pawb fwynhau."
Dywedodd Leisa Gwenllian fod "egni rhyfeddol" i Flaenau Ffestiniog.
Mae'r ffilm yn dilyn hanes merch ifanc sy'n wynebu cyfres o heriau.
Marc Evans ychwanegodd:
"Mae 'na themâu difrifol ynddo fe... mae'n ymwneud gyda thlodi a dweud y gwir. Mae'n ymwneud â'r ffaith bod cymdeithas ddim yn edrych ar ôl yr 'Effis' yma mwyach. Ond... mae Blaenau yn gymuned agos iawn... ac yn y diwedd, mae hi'n dibynnu ar ei chymdogion hi i oroesi."
'Wastad 'di bod yn freuddwyd'
Mae'r stori'n seiliedig ar y ddrama llwyfan llwyddiannus "Ephigenia in Splott" gan y dramodydd Gary Owen.
Un o'r rhai a wylodd y ddrama yn theatr y Lyric yn Hammersmith yn 2022 oedd yr actores Leisa Gwenllian, sy'n chwarae rhan Effi yn y ffilm.
Hi ddywedodd:
"Na' i byth anghofio'r teimlad 'na o weld dynes hefo acen Caerdydd, Splott, ofnadwy o gryf ar y llwyfan mewn theatr eithaf enwog yn Llundain. Oedd o'n anhygoel a phan 'nes i weld bod nhw'n gwneud ffilm o'r stori - o'n i just mor, mor keen i 'neud o. 'Nes i berfformio darn bach ohoni hi yn y 'Steddfod a nes i hefyd auditionio ar gyfer yr ysgol ddrama hefo monolog o Ephigenia in Splott, felly oedd hi wastad 'di bod yn freuddwyd y byswn i'n chwarae Effi."
Cafodd y ffilm ei dangos am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm Glasgow ac mae hi eisoes wedi derbyn adolygiadau positif.

Ychwanegodd Leisa:
"Mae'n golygu cymaint i fi gael mynd 'nôl adra i weithio a gweithio yn y Gymraeg, a nid yn unig y Gymraeg ond fy Nghymraeg i - Cymraeg gogleddol, fy nhafodiaith i. 'Di hynna ddim yn digwydd yn aml. A dwi just yn meddwl bod Blaenau yn le mor cŵl. Mae 'na egni rhyfeddol i'r lle. 'A dwi just hefyd yn teimlo'n rili falch bod pobl tu allan i Gymru'n dangos gymaint o ddiddordeb yn y ffilm hefyd. 'A bod nhw rŵan yn fwy ymwybodol o'n diwylliant ni a'n hiaith ni ac o ogledd Cymru yn specific."
'Byw cyfanwaith bywyd yn Gymraeg'
Yn ôl Marc Evans:
"O'n i moyn lleoli hi lle'r oedd pobl yn byw cyfanwaith eu bywyd nhw yn Gymraeg, bod nhw'n caru ac yn ymladd a just yn byw pob dydd yn Gymraeg".
Mae Marc yn disgrifio Blaenau Ffestiniog fel:
"lle anhygoel yn weledol... ti'n edrych ar Blaenau a ti'n gweld y llechi, a ti'n gweld lle'r oedd diwydiant unwaith... ond cymuned gref."
Mae'r stori wedi ei hail-leoli ym Mlaenau Ffestiniog ar gyfer y ffilm.

Cafodd y ffilm ei dangos am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm Glasgow ac mae hi eisoes wedi derbyn adolygiadau positif, gan gynnwys un yn y sy'n ei disgrifio fel "must-watch".
Dywedodd Marc:
"Mae'n anarferol bod o 'di cael cymaint o ymateb y tu allan i Gymru, mae dwy job yn does? Un job ydy gwneud ffilmiau i ni'n hunain, fel ein bod ni'n gweld ein hunain ar y sgrin fawr, mae hynny'n bwysig wrth gwrs. Ond y job arall - sydd hefyd yn apelgar - ydy mynd â'n stori ni allan i'r byd ac i sinemâu y tu allan i Gymru. Felly dwi'n gobeithio, croesi bysedd, bod Effi o Blaenau'n mynd i 'neud y ddwy job yna, achos ar y foment mae lot o ymateb wedi bod y tu allan i Gymru i'r stori Gymreig iawn yma. Dwi'n meddwl bod yr is-deitl 'brawychus' yna - wedi dod yn rhywbeth llawer mwy cyffredin erbyn hyn, achos mae pobl yn gwylio stwff ar y teledu erbyn hyn gydag is-deitlau."
'Pam ddim Cymraeg?'
Ychwanega Leisa:
"Swn i'n licio gweld mwy na dim, mwy o ffilmiau Cymraeg rŵan... yn cael eu dangos mewn sinemâu ar draws Prydain ac yn rhyngwladol... ac y dylia unrhyw un allu eu gwatchad nhw... Dwi'n hapus iawn i watchiad ffilmiau mewn ieithoedd eraill, felly dwi just yn meddwl - pam ddim Cymraeg?"
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau Cysylltiedig
Straeon Perthnasol
- Leisa Gwenllian: 'Stori pobl Blaenau yw hon'
- Hans Obma: Fy nhaith Gymraeg i Gwmderi
- Gwenno Llwyd Till: 'Dwi isho creu ffilmiau sy'n gwneud gwahaniaeth'
- Cyfarwyddwr o Fôn yn derbyn enwebiad Primetime Emmy







